Helo!

Fy enw i yw Sioned Williams, eich ymgeisydd Plaid Cymru ar gyfer Etholiad Senedd mis MAI 2021.

Sioned1.jpeg

Nawr yw'r amser i ddechrau cynllunio ar gyfer dyfodol newydd - un a fydd o fudd i bawb sy'n byw ac yn gweithio yma, a phenderfynu beth ddylai ein blaenoriaethau fod wrth i ni wynebu effeithiau Covid ar ein cymunedau.

 
Rwy'n byw yn yr Alltwen yn etholaeth Castell-nedd ac rwy'n gynghorydd cymuned ac yn llywodraethwr ysgolion lleol ers nifer o flynyddoedd. Yn gyn-newyddiadurwr gyda'r BBC, rwyf bellach yn gweithio ym Mhrifysgol Abertawe ac mae fy ngwaith yn cynnwys trefnu digwyddiadau cyhoeddus a chyrsiau cymunedol ar hanes, diwylliant a llenyddiaeth Cymru ar draws ein hardal.


Rwy’n angerddol dros ymladd am degwch a ffyniant ar gyfer cymunedau ardal Castell-nedd a gobeithiaf herio difaterwch ac esgeulustod y gorffennol wrth inni wynebu dyfodol newydd gyda’n gilydd. Rhaid inni achub ar y cyfle hwn i gryfhau ein cymunedau a'n cenedl yn hytrach na'u gweld yn cael eu gwanhau.


Gyda'ch cefnogaeth chi, byddaf yn ymladd i

• Sicrhau Llais Cryfach i Gastell-nedd yng Nghymru, a Llais Cryfach i Gymru ym Mhrydain.
• Gwaredu ar dlodi plant
• Sicrhau codiad cyflog i'n gofalwyr
• Cyflwyno gofal cymdeithasol am ddim yn union fel y GIG
• Cyflwyno Bargen Newydd Werdd ar gyfer adnewyddu economaidd cynaliadwy
Mae'n gyfnod newydd yn ein gwleidyddiaeth ac mae'n amser cael llais newydd i'n cymuned!
Felly hoffwn glywed gennych chi!


Gallwch ysgrifennu ataf drwy'r cyfeiriad RHADBOST, PLAID CYMRU neu e-bostio [email protected] neu gysylltu trwy’r wefan www.plaidneath.cymru


Dilynwch fi ar

Facebook - /SionedWilliamsforNeath
Instagram - /sionedplaid
Twitter - @Sioned_W


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.