Plaid Cymru wedi galw am rewi Treth Gyngor CNPT

Mae Plaid Cymru wedi galw am rewi Treth Gyngor CNPT mewn blwyddyn eithriadol o anoddin cymunedau.

Byddai gwelliant arfaethedig Plaid Cymru wedi rhewir dreth gyngor am flwyddyn gan dal i adael y Cyngor â chronfeydd wrth gefn digonol.

Dywedodd y Cynghorydd Alun Llewelyn, Arweinydd grŵp Plaid Cymru ar Gyngor Castell-nedd Port Talbot:

“Mae hon wedi bod yn flwyddyn anodd iawn i’r awdurdod ac mae’r rhain yn amgylchiadau heriol iawn i osod cyllideb. Ond maen nhw'n amseroedd anodd iawn hefyd i'n cymunedau a'n preswylwyr, ar ôl blwyddyn o gyfyngiadau pandemig, cyfnodau clo ac ansicrwydd swyddi. Daw hyn ar ben blynyddoedd o gyni a thoriadau yng ngwasanaethau'r cyngor sydd wedi effeithio ar amgylchedd ac ansawdd bywyd ein holl gymunedau.”

Er gwaethaf yr ymateb ir ymgynghoriad cyhoeddus sy’n dangos pryder ysgubol ynghylch lefel  treth y cyngor, gofynnwyd i ni gymeradwyo cyllideb a fyddain cynyddu treth y cyngor unwaith eto o 2.75%.

Maer weinyddiaeth Lafur wedi cydnabod y pryder trwy leihaur cynnydd a argymhellir o 3.75% i 2.75% ond bydd hynny’n dal i adael CNPT gyda’r drydedd dreth y cyngor uchaf yng Nghymru o dipyn.

Maer ymgynghoriad cyhoeddus yn adlewyrchu’r ymdeimlad amlwg o anhegwch bod ein treth y cyngor gymaint yn uwch na PHOB UN on cynghorau cyfagos - Pen-y-bont ar Ogwr, Powys, RhCT, Abertawe, Sir Gaerfyrddin - er bod ein gwasanaethau wedi’u torri flwyddyn ar ôl blwyddyn.

Dyna pam mae grŵp Plaid Cymru wedi cynnig rhewi Treth y Cyngor Castell-nedd Port Talbot ar gyfer y flwyddyn eithriadol o anodd hon.

Rydyn ni wedi archwilio’r ffigurau. Dywedir wrthym bob amser bod angen cronfeydd wrth gefn ar gyfer diwrnod glawog - wel mae wedi bod yn arllwys hi yn drosiadol drwy'r flwyddyn ar ein trefi, ein pentrefi a'n cymunedau. Nawr yw'r amser y mae ei angen arnom i helpu'r bobl.

Dywedodd Sioned Williams, Ymgeisydd Senedd Plaid Cymrudros Gastell-nedd:

“Mae trigolion Castell-nedd Port Talbot yn talu un o’r cyfraddau uchaf o dreth y cyngor yng Nghymru gyfan. Mae Plaid Cymru wedi dangos bod gan y Cyngor sy'n cael ei redeg gan Lafur ddewis eleni i dynnu'r pwysau oddi ar bobl sy'n ei chael hi'n anodd o ganlyniad i ddelio â'r argyfwng economaidd ac iechyd mwyaf mewn cof. Byddai hyn wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i gannoedd o deuluoedd yn ein hardal syn ysgwyddo baich annheg y dreth hon.

“Mae Plaid Cymru wedi addo diwygio Treth y Cyngor os caiff ei hethol i’r llywodraeth yn etholiad Seneddol mis Mai. Rwy’n falch bod Plaid Cymru wedi ymrwymo i wneud treth y cyngor yn decach ac yn fwy blaengar. ”


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.