Cynghorwyr Plaid - Ar Eich Ochr CHI!
gan Alun Llewelyn - Arweinydd Plaid Cymru ar Gyngor Castell-nedd Port Talbot
Plaid Cymru yw'r brif wrthblaid ar Gyngor Castell-nedd Port Talbot.
Mae ein 15 Cynghorydd Sir ymroddedig a deinamig yn cynrychioli ardaloedd ar draws Castell-nedd Port Talbot, o Gymoedd Tawe a Nedd i drefi Pontardawe, Castell-nedd a Phort Talbot.
Rydym wedi ennill llawer o seddi cyngor yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac yn Etholaeth Castell-nedd mae Plaid Cymru bellach yn cystadlu’n agos gyda Llafur.
Rydym yn gweithio'n galed dros ein cymunedau, gan ymgyrchu'n effeithiol ar y materion sydd o bwys i bobl.
- Sicrhau chwarae teg i'r cymoedd
- Newid y Cynllun Datblygu Lleol
- Cynllunio dyfodol gwell ar gyfer tref farchnad hanesyddol Castell-nedd
- Sicrhau dyfodol gorsaf reilffordd Castell-nedd
- Sicrhau cyfleusterau iechyd modern yn Nghwm Nedd
- Galw am Fargen Newydd Werdd i ailadeiladu economi Cymru a gwella ein hamgylchedd yn ystod ac ar ôl cyfnod Covid 19
- Cynnal y gwasanaethau hanfodol sydd mor bwysig - a chadw gwasanaethau rheng flaen sy'n gwneud gwahaniaeth i sut mae ein hardaloedd yn edrych ac yn teimlo
Mae Covid 19 wedi bod yn her enfawr - gan roi pwysau mawr ar wasanaethau cynghorau ledled y wlad. Yng Nghastell-nedd Port Talbot mae gennym eisoes un o'r cyfraddau Treth y Cyngor uchaf yng Nghymru, a dadleuodd y grŵp Cynghorwyr Plaid eto wrth drafod Cyllideb y Cyngor 2020 i gadw'r Dreth Gyngor ar lefel fwy rhesymol. Rydym nawr yn galw ar Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i sicrhau bod digon o gefnogaeth i wasanaethau cyngor yn ystod argyfwng Covid - ni ddylai pobl Castell-nedd Port Talbot wynebu cynnydd enfawr yn y Dreth Gyngor na thoriadau niweidiol yng ngwasanaethau'r cyngor.
Yn ogystal â'n Cynghorwyr Sir, mae yna ddwsinau o Gynghorwyr Tref a Chymuned Plaid Cymru yn Etholaeth Castell-nedd sy’n gwneud gwahaniaeth go iawn - gan gadw parciau, neuaddau cymunedol, cynlluniau chwarae, a phob math o weithgareddau ar agor yn ein cymunedau.
Mae cynghorwyr Plaid Cymru yng Nghastell-nedd Port Talbot ar eich ochr chi!
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter