Plaid Cymru wedi galw am rewi Treth Gyngor CNPT
Mae Plaid Cymru wedi galw am rewi Treth Gyngor CNPT mewn “blwyddyn eithriadol o anodd” i’n cymunedau.
Byddai gwelliant arfaethedig Plaid Cymru wedi rhewi’r dreth gyngor am flwyddyn gan dal i adael y Cyngor â chronfeydd wrth gefn digonol.
Dywedodd y Cynghorydd Alun Llewelyn, Arweinydd grŵp Plaid Cymru ar Gyngor Castell-nedd Port Talbot:
“Mae hon wedi bod yn flwyddyn anodd iawn i’r awdurdod ac mae’r rhain yn amgylchiadau heriol iawn i osod cyllideb. Ond maen nhw'n amseroedd anodd iawn hefyd i'n cymunedau a'n preswylwyr, ar ôl blwyddyn o gyfyngiadau pandemig, cyfnodau clo ac ansicrwydd swyddi. Daw hyn ar ben blynyddoedd o gyni a thoriadau yng ngwasanaethau'r cyngor sydd wedi effeithio ar amgylchedd ac ansawdd bywyd ein holl gymunedau.”
Ymateb Grŵp Cynghorwyr Plaid Cymru i sylwadau Arweinydd Cyngor CNPT
Mae arweinydd grŵp Plaid Cymru ar Gyngor Castell-nedd Port Talbot, y Cynghorydd Alun Llewelyn, wedi croesawu’r ymchwiliad i recordiad honedig o sylwadau personol gan Arweinydd y Cyngor, Rob Jones, am wrthwynebwyr gwleidyddol, polisïau cau ysgolion, ac awgym o wahaniaethu posib yn erbyn Plaid Cymru a Chynghorwyr Annibynnol sydd wedi eu hethol yn ddemocrataidd i weithio dros eu hardaloedd.
"Mae angen i'r ymchwiliad fod yn deg ac yn drylwyr, ond mae'r rhain yn faterion difrifol - a dylid hefyd ymchwilio i ddiwylliant gwleidyddol y Blaid Lafur a'r ffordd maen nhw'n rhedeg cynghorau yn ne Cymru.
“Rwy’n bryderus iawn am gynnwys y tâp gan ei fod yn tanseilio hyder y cyhoedd yn nhegwch cyllideb a gwariant y cyngor mewn gwahanol rannau o’r sir, a’r ffordd y mae penderfyniadau’r cyngor yn cael eu gwneud. Mae angen i ni gael esboniadau am y datganiadau ar y tâp ac rwyf wedi gofyn i brif weithredwr a swyddog monitro'r cyngor ymchwilio i hyn ar frys."
Cyllideb a Threth Cyngor Castell-nedd Port Talbot 2021/22
Ymateb covid Plaid Cymru Castell-nedd
Mae'r sefyllfa yng Nghastell-nedd Port Talbot wedi parhau i ddirywio ac erbyn hyn mae gennym y cyfraddau haintCovid-19 gwaethaf yng Nghymru.
Mae'r Cynghorydd Alun Llewelyn, Arweinydd grŵp Plaid Cymru ar Gyngor CNPT wedi ysgrifennu at y Cyngor yn ogystal â Jeremy Miles AoS, sy'n aelod o Lywodraeth Cymru, yn gofyn i'r Cyngor, Llywodraeth Cymru, a’rr Awdurdodau Iechyd i wneud mwy i ymateb i'r sefyllfa ddifrifol hon.
Nawr yw'r amser i leisiau pobl ifanc gael eu clywed!
gan Jamie Evans, Cynghorydd Sir Plaid Cymru ar gyfer De Castell-nedd
Yn ystod y cyfnod rhyfedd hwn, yn anffodus cefais fy hun yn gorfod cysgodi o'r firws fel rhywun yn y grŵp risg uchel. Nid oeddwn yn gallu mynd o gwmpas i helpu gwirfoddolwyr cymunedol i ddarparu nwyddau a gwasanaethau i'r rhai mwyaf anghenus yn fy nghymuned, ac roedd hyn yn hynod rwystredig i mi fel cynghorydd yn fy ugeiniau. Fodd bynnag, cefais fy nghalonogi o weld pobl ifanc yn fy nheulu, fy stryd, fy nhref ac ar draws Cymru yn camu i'r adwy ac yn gwirfoddoli i sicrhau cymorth i’r rhai mewn angen.
Mae pobl ifanc yn aml yn cael eu pardduo am beidio ag ymddiddori yn eu cymuned a'r byd o'n cwmpas. Fodd bynnag, mae rhai fel Malala Yousafzai a Greta Thunberg wedi dangos pan fydd pobl ifanc yn cymryd rhan mewn mudiad, mae'r byd yn stopio ac yn cymryd sylw.
Erbyn hyn, yn anffodus, rwy'n cael fy hun allan o'r grŵp oedran 18-24, ond roeddwn wrth fy modd o weld mai'r genhedlaeth hon yw'r prif ddylanwad yn y mudiad annibyniaeth yng Nghymru, gyda 41% o bobl yn yr ystod oedran yma o blaid Cymru annibynnol.
Am gyfnod rhy hir mae'r sefydliad gwleidyddol wedi anwybyddu pobl ifanc ac wedi bradychu eu hymddiriedaeth ar faterion fel llaeth am ddim, ffioedd dysgu prifysgol a chyflogau isel. Ond dylai'r newid yn agweddau ieuenctid Cymru fod yn alwad ddifrifol i'r rhai sydd mewn grym i ddeffro. Bydd ein llais yn cael ei glywed, a daw ein hamser! Os hoffech chi ymwneud â Phlaid Ifanc Caste
ll-nedd, cysylltwch â ni drwy Twitter neu FB!
Prysurdeb ym Mryncoch
Trefnodd Wyndham Griffiths, Cynghorydd Bwrdeistref Sirol Plaid Cymru Gogledd Bryncoch ynghyd â Chynghorwyr Bwrdeistref SirolPlaid Cymru ar gyfer De Bryncoch, Joanna Hale a Chris Williams, gan weithio â'r Cynghorwyr Cymunedol Julie Griffiths ac Emma Edwards ddigwyddiad codi arian i dalu am oleuo'r coed Nadolig yn y ddwy Ward. Hwn oedd yr ail ddigwyddiad ers mis Mehefin eleni ac roedd y ddau yn llwyddiannus iawn.
O'u cronfa gymunedol, mae tri Chynghorydd Bryncoch Plaid Cymru hefyd wedi cyfrannu £15,000 i helpu i ariannu prosiect yng Nghlwb Rygbi Bryncoch. Mae'r arian wedi helpu'r clwb i wneud gwelliannau mawr i'r cawodydd ystafell newid ac i ddarparu mynediad i'r anabl i'r toiledau newydd i'r anabl.
Gwaith Tîm Plaid Pontardawe
Yn ystod y cyfnod clo, bu'r Cynghorwyr Sir Plaid Cymru Linet Purcell ac Anthony Richards yn gweithio'n unigol; Deliodd Anthony â gwaith achos a chymerodd Linet rôl Pencampwr Cymunedol, gan gydlynu tîm gwych o wirfoddolwyr Pontardawe a helpodd i gefnogi preswylwyr yn ystod y cyfnod clo.
Ar rai tasgau buont yn gweithio gyda'i gilydd. Gofynnwyd iddynt am gymorth i adfer llwybr a mainc a ddefnyddid gan breswylwyr oedrannus. Aeth Linet ac Anthony ar drywydd hyn dros fisoedd lawer, gan gysylltu â Swyddogion y Cyngor Sir ac o'r diwedd llwyddwyd i ailagor y llwybr a gosod mainc newydd, a ddarparwyd gan Gyngor Tref Pontardawe. Mae gwaith tîm yn gweithio!
Cadw Ein Hunaniaeth
Pan gyhoeddodd y comisiwn ffiniau etholiadol y cynllun i uno pentref Trebannws â Thref Pontardawe, rhoddodd Cynghorydd Plaid Cymru Rebeca Phillips wybod i'w hetholwyr ar unwaith.
Yn naturiol, bu llawer o wrthwynebiad i hyn oherwydd bod preswylwyr yn teimlo y byddent yn colli eu hunaniaeth pentref pe byddent yn uno â chanol tref. Mae'r problemau sy'n wynebu'r ardaloedd o amgylch y sir i gyd yn wahanol iawn. Nid yw ‘mwy’ bob amser yn golygu ‘gwell’.
Trefnodd y Cynghorydd Phillips ddeiseb a lofnodwyd gan gannoedd o drigolion ac anogodd gynifer o bobl â phosibl i ymateb i'r ymgynghoriad. Cymerodd aelodau etholedig Plaid Cymru ar bob lefel yn yr ardal ran yn yr ymgyrch.
Mae'r comisiwn ffiniau wedi gwrando ar y gwrthwynebiadau hyn ac maent bellach yn argymell cadw Trebannws fel ward cyngor ar wahân. Mae hyn yn profi pwysigrwydd cael aelodau etholedig Plaid Cymru ar bob lefel - a fydd yn gwrando ar eich pryderon a gweithredu er eich budd chi!
Ymladd Dros Flaengwrach
Ym mis Mawrth eleni, ar ddechrau’r cyfnod clo, cafodd trigolion ward Blaengwrach y newyddion ofnadwy bod y bont yn Chain Road wedi cael ei difrodi mor ddifrifol gan Storm Dennis nes bod yn rhaid ei chau ar unwaith.
Mae'r bont yn gyswllt hanfodol i gerddwyr rhwng dwy gymuned Blaengwrach a'r Lamb. Mynnodd Llywodraeth Cymru, ar adeg cwblhau'r A465, fod gan y ward fynediad i gerddwyr yn hytrach na mynediad i gerbydau.
Bu llawer o drafod am y mater pwysig hwn rhwng Cynghorydd Sir Plaid Cymru dros Flaengwrach, Carolyn Edwards, a Chyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yn ystod y cyfnod clo ac ar ôl tipyn o frwydro cytunodd Cyngor Castell-nedd Port Talbot i osod pont dros dro, ac i gael pont newydd sbon yn ei lle yn y dyfodol agos.
“Er nad tanffordd yw’r ateb gorau ar gyfer mynediad, daeth yn amlwg ar ôl i’r bont gau pa mor hanfodol yw’r cysylltiad hwnnw i’r ddwy gymuned ac rwy’n ddiolchgar iawn, er gwaethaf yr anawsterau a achoswyd gan COVID 19, fod y mater wedi’i ddatrys yn foddhaol.” - Y Cynghorydd Carolyn Edwards, Cynghorydd Bwrdeistref Sirol Plaid Cymru dros Flaengwrach.
Gwelliannau i'r Parc
Dywed Cyngh. Carolyn Edwards mai’r hyn y mae hi fwyaf balch o gyflawni y llynedd yw prosiect llwyddiannus Parc y Welfare, Cwmgwrach.
“Cyflawnwyd y prosiect trwy waith caled Cyngor Cymuned Blaengwrach, yr wyf yn gadeirydd arno, y clerc a chynghorwyr. Ni ellid bod wedi cyflawni'r prosiect heb arian gan Fferm Wynt Pen y Cymoedd, Cronfa Ymddiriedolaeth Selar a Chastell-nedd Port Talbot. Mae'n gyflawniad anhygoel ac rydyn ni'n diolch i bawb sy'n ymwneud â'r prosiect ac mae’r cyngor dan arweiniad Plaid Cymru nawr yn edrych ar ddatblygiadau eraill yn y parc yn y dyfodol. ”
Gardd flodau gwyllt
Fel Cadeirydd Cyngor Cymuned Blaengwrach, bu’r Cynghorydd Carolyn Edwards yn helpu plant ysgol Blaengwrach, aelodau canolfan hyfforddi Glyn-nedd a gwirfoddolwyr wrth greu gardd flodau wyllt wrth fynedfa'r pentref.
Dywedodd y Cynghorydd Edwards: “Y gobaith yw y bydd yr ardd hon yn gwella’r fynedfa i’r pentref ac yn annog ein pobl ifanc i ymddiddori mewn garddio a sicrhau bod blodau gwyllt a phryfed ac ati yn ffynnu.’
Achub ein Cartref Gofal
Mae aelodau Grŵp Gweithredu yng Nghwm Nedd yn ail-lansio'r ymgyrch i achub eu cartref gofal rhag cael ei gau ymhen deunaw mis.
Gwnaeth Cyngor Castell-nedd Port Talbot, a oedd wedi gwrando ar leisiau'r rhai a oedd yn ymladd i gadw cartref gofal Trem-y-Glyn yng Nglyn-nedd ryw ddeng mlynedd yn ôl, dro pedol yn 2016 - gan honni nad oedd cadw'r cartref ar agor bellach yn bosib. Yn dilyn mân adnewyddiad, gorchmynnwyd bod y cartref yn cau yn 2022.
Dadleuodd Cynghorydd Plaid Cymru Glyn-nedd, Dr. Del Morgan, sy'n Gynullydd Grŵp Gweithredu Trem-y-Glyn, ei fod bob amser yn argyhoeddedig y byddai cynnydd, nid gostyngiad, yn yr angen am gartrefi gofal o'r fath dros ddegawdau’r dyfodol, ac mae wedi croesawu’r arwyddion diweddar gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot eu bod o’r diwedd yn rhoi ystyriaeth ddifrifol i’r ddadl hon.
“Rydw i ychydig yn fwy optimistaidd nawr bod y Cyngor yn dechrau ailystyried yr holl fater hwn,” meddai, “er fy mod yn credu ein bod yn dechrau rhedeg allan o amser, a bod yr amser bellach yn iawn i’r Grŵp Gweithredu ail-lansio ei ymgyrch i achub y cartref a cheisio cael ymrwymiad i gadw ein cartref gofal ar agor am gyfnod amhenodol i’r dyfodol. ”
“Gyda phobl yn byw yn hirach a gyda’r genhedlaeth ‘baby boom’ yn dod drwodd, sut y gallem ystyried y bydd yn bosibl gweld gostyngiad yn nifer y bobl a fydd angen cartrefi gofal? Mae Trem-y-Glyn yn gyfleuster mor gartrefol, gyda staff a thrigolion ymroddedig sy'n hapus i aros yn agos at eu cymunedau, ” ychwanegodd y Cynghorydd Morgan.
Mae Bwrdd Cabinet Gofal Cymdeithasol, Iechyd a Lles y Cyngor Sir yn monitro'r sefyllfa ar hyn o bryd, ac mae aelodau'r Grŵp Gweithredu yn gobeithio y bydd y Bwrdd unwaith eto'n gwrando arnynt ac yn adfer y cartref, naill ai trwy roi estyniad tair blynedd o leiaf ar y dyddiad cau yn y tymor byr, neu drwy ganiatáu estyniad parhaol i fodolaeth y cartref ar unwaith.
“Rwy’n erfyn ar y Cyngor i godi’r bygythiad posib i’r cartref hwn ar unwaith,” meddai’r Cynghorydd Morgan. “O leiaf gadewch inni gael moratoriwm tair blynedd ar unrhyw gynlluniau i gau fel y gallwn weithio ar ymchwil bellach i ddangos bod yna angen am y cartref hwn fel cyfleuster parhaol.” Ychwanegodd, “Rydw i mor ddiolchgar am waith a chefnogaeth pawb sydd wedi bod yn weithgar dros achos Trem-y-Glyn, gan gynnwys y Grŵp Gweithredu, staff y Cartref a’r preswylwyr a’u teuluoedd.”