Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, yn ysgrifennu at yr Archwilydd Cyffredinol

Drakeford yn gwrthod cefnogi galwadau am ymchwiliad Archwilydd Cyffredinol i sylwadau Cynghorydd Llafur CNPT am gyllid cyhoeddus.

Mae Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, wedi ysgrifennu at yr Archwilydd Cyffredinol yn gofyn am ymchwiliad i gamddefnydd posib o arian cyhoeddus at ddibenion gwleidyddol.

Mae’r Prif Weinidog ac Arweinydd Llafur Cymru, Mark Drakeford, wedi gwrthod cefnogi galwadau gan Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, ar gyfer ymchwiliad gan Archwilydd Cyffredinol yn dilyn sylwadau a wnaed gan Arweinydd Llafur Cyngor Castell-nedd Port Talbot, Rob Jones yn ymwneud â chamddefnydd o arian cyhoeddus.

Yr wythnos diwethaf, gorfodwyd arweinydd Llafur Cyngor Castell-nedd Port Talbot, Cyngh. Rob Jones, i ymddiswyddo ar ôl i recordiad ddod i’r amlwg ohono yn gwneud sylwadau difrïol am Aelod Senedd Plaid Cymru, Bethan Sayed.

Gellir clywed Mr Jones hefyd yn dweud wrth swyddogion i “fynd i chwilio i lawr y tu ôl i gefn y soffa” i dalu am heol newydd,a wnaeth i bobl “droi at y Blaid Lafur.”

Dywedodd Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, ei fod wedi ysgrifennu at yr Archwilydd Cyffredinol yn gofyn am ymchwiliad i’r sylwadau i ddiogelu rhag y camddefnydd posib o arian cyhoeddus at ddibenion gwleidyddol yn awdurdodau lleol Cymru.

Dywedodd Arweinydd Plaid Cymru y byddai ceisio “mantais bleidiol gul” trwy gamddefnyddio gwariant cyhoeddus yn “gamddefnydd hollol annerbyniol o rym”.

Heriodd Mr Price Mr Drakeford i gefnogi’r ymchwiliad ac i gondemnio’n uniongyrchol y sylwadau a wnaed gan ei gyd-aelod Llafur yn ystod y sesiwn gwestiynau i’r Prif Weinidog yn y Senedd heddiw - cais a wrthododd Mr Drakeford.

Dywedodd Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price MS,

“Mae’r recordiad o’r Cynghorydd Rob Jones yn datgelu ffordd sinistr o weithredu gwleidyddiaeth lle mae’n cyfeirio’n gwbl ryfeddol at ffafrio prosiectau a gefnogir gan Gynghorwyr Llafur ar gyfer cyllid cyhoeddus.

“Buddiannau ein pobl a’n cymunedau yn gyffredinol ddylai pennu dyraniad arian cyhoeddus, nid buddion pleidiol cul ac awydd i setlo dadleuon gwleidyddol. Byddai ceisio mantais bleidiol gul trwy gamddefnyddio penderfyniadau ar wariant cyhoeddus yn cynrychioli camddefnydd hollol annerbyniol o rym.

“Rwyf wedi ysgrifennu at yr Archwilydd Cyffredinol yn gofyn iddo nid yn unig ymchwilio i'r sylwadau a wnaed gan y Cynghorydd Jones yn y recordiad, ond hefyd sicrhau bod gwiriadau cadarn ar waith i ddiogelu rhag y camddefnydd posibl o arian cyhoeddus at ddibenion gwleidyddol yn awdurdodau cyhoeddus Cymru.

“Roedd yn siomedig na wnaeth y Prif Weinidog gefnogi ymchwiliad gan yr Archwilydd Cyffredinol ac nid oedd chwaith yn medru condemnio’r sylwadau misogynistaidd llwyr a wnaed gan ei gyd-aelod.

Dywedodd Sioned Williams, ymgeisydd Etholiad Senedd Plaid Cymru ar gyfer Castell-nedd:

”Mae'n hynod siomedig na ddefnyddiodd y Prif Weinidog Llafur y cyfle hwn i gefnogi galwad Plaid Cymru i'r Archwilydd Cyffredinol ymchwilio i'r sylwadau honedig a wnaed gan arweinydd Llafur Cyngor Castell-nedd Port Talbot, y Cynghorydd Rob Jones.

"Mae pobl Castell-nedd yn haeddu ymchwiliad trylwyr a thryloyw ar y lefel uchaf i sicrhau bod eu ffydd yn cael ei hadfer yn eu Cyngor. Gydag etholiad yn agosáu, mae'n ddyletswydd ar wleidyddion i wneud popeth posibl i hyrwyddo cywirdeb ac atebolrwydd ein cyrff etholedig. Mae’r ffath bod arweinydd Llywodraeth Cymru, a’r Blaid Lafur yng Nghymru, yn gwrthod gweithredu i wneud hynny, yn ergyd i hyder yr etholwyr yn y system ddemocrataidd sydd i fod i’w gwasanaethu."


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.