Cyllideb a Threth Cyngor Castell-nedd Port Talbot 2021/22 – Mae’r Blaid am i chi ddweud eich dweud.
Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot, o dan reolaeth Lafur, yn ymgynghori ar gyllideb 2021-2022.
Mae cyllidebau cynghorau yn gymhleth ac yn talu am amrediad eang o wasanaethau.
Bu’n gyfnod anodd i lawer o deuluoedd, a bu gwasanaethau Cyngor yn bwysig iawn yn ystod y cyfnod Cofid.
Ar gyfer 2021 mae Castell-nedd Port Talbot yn wynebu cynnydd o 3.75% yn y Dreth Cyngor – er bod gennym eisioes un o’r cyfraddau uchaf o dreth cyngor yng Nghymru.
Rydym ymhlith yr uchaf ers cwarter canrif ond yn ystod y cyfnod hwnnw torwyd ar nifer o wasanaethau lleol o dan lywodraethau Ceidwadol a Llafur.
Mae Treth Cyngor CNPT llawer uwch na chyfartaledd Cymru a phob un o’n cymdogion.
Plaid Cymru yw’r prif wrthblaid i Lafur ar gygor Castell-nedd Port Talbot - lle mae gennym 15 cynghorydd gweithgar.
Rydym yn craffu’r gyllideb yn drylwyr, a byddwn yn pwyso ar y Cyngor Llafur i:
• Gadw’r Dreth Cyngor mos isel a phosib
• Buddsoddi mewn gwasanaethau rheng flaen i helpu ein cymunedau
• Sicrhau gwerth am arian
• Galw ar lywodraethau’r DU a Chymru i gyflwyno cyllid tecach ar gyfer gwasanaethau cyngor lleol.
Rydym eisiau i CHI ddweud eich dweud – ond mae’n bwysig i bawb ymateb i Ymgynhoriad y Gyllideb ar wefan y Cyngor erbyn 12ed Chwefror https://www.npt.gov.uk/5907
Ydych chi'n hoffi'r neges hon?
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter