Plaid Cymru yn ymuno â chlymblaid flaengar yng Nghastell-nedd Port Talbot

Mae clymblaid newydd yn mynd i arwain Cyngor Castell-nedd Port Talbot ar ôl i gynrychiolwyr o’r grwpiau Annibynnol, Plaid Cymru ac Annibynwyr Dyffryn ddod i gytundeb i rannu grym. Bydd aelodau Democratiaid Rhyddfrydol Cymru a’r Blaid Werdd yn cefnogi’r glymblaid drwy gyfrwng cytundeb hyder a chyflenwi.

Yr un a enwebwyd fel Arweinydd y Cyngor yw’r Cynghorydd Steve Hunt, a’r Dirprwy Arweinydd enwebedig yw’r Cynghorydd Alun Llewelyn.

Bydd y glymblaid a’r grwpiau sy’n ei chefnogi’n dal 33 sedd o gyfanswm o 60.

Darllenwch fwy
Ychwanegwch eich ymateb Rhannu

Torri Treth y Cyngor

Ychwanegwch eich ymateb Rhannu

PLAID YN SYNNU AT GANLYNIAD YMCHWILIAD "SCHOOLGATE"

Mae Plaid Cymru yng Nghastell-nedd wedi ymateb i’r newyddion bod Ombwdsmon Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru wedi darganfod nad oedd cyn-arweinydd cyngor Castell-nedd Port Talbot, y Cynghorydd Rob Jones, wedi torri Cod Ymddygiad y cyngor.

Darllenwch fwy
Ychwanegwch eich ymateb Rhannu

Plaid Cymru Castell-nedd yn cefnogi galwad ar Gyngor Castell-nedd Port Talbot i ystyried cais ar gyfer Dinas Diwylliant y DG

Mae Plaid Cymru Castell-nedd yn cefnogi galwadau gan yr actifydd cymunedol lleol Andrew Jenkins, Cimla, ar i Gyngor Castell-nedd Port Talbot gyflwyno mynegiant o ddiddordeb ar gyfer cynllun Dinas Diwylliant y DG erbyn y dyddiad cau ym mis Gorffennaf.

Darllenwch fwy
Ychwanegwch eich ymateb Rhannu

'Rhaid gwneud mwy i gefnogi canol tref Castell-nedd' medd Adam Price

Tra ar ymweliad â chanol tref Castell-nedd gydag Ymgeisydd Etholiad Plaid Cymru dros Gastell-nedd, Sioned Williams, dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, y byddai ei blaid yn rhoi adfywio canol tref wrth galon ei weledigaeth economaidd  ar gyfer Castell-nedd ac ar gyfer Cymru.

Darllenwch fwy
Ychwanegwch eich ymateb Rhannu

Plaid Cymru yn “cyd-sefyll” gyda gweithwyr y DVLA sy'n streicio

Wrth ymateb i’r streic bedwar diwrnod gan weithwyr DVLA, dywedodd ymgeiswyr rhanbarthol Plaid Cymru Gorllewin De Cymru Sioned Williams a Luke Fletcher, 

 

“Rydym yn cydsefyll gyda’r gweithwyr DVLA yn Abertawe sy’n streicio dros amodau gwaith diogel. 

 

Darllenwch fwy
Ychwanegwch eich ymateb Rhannu

Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, yn ysgrifennu at yr Archwilydd Cyffredinol

Drakeford yn gwrthod cefnogi galwadau am ymchwiliad Archwilydd Cyffredinol i sylwadau Cynghorydd Llafur CNPT am gyllid cyhoeddus.

Mae Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, wedi ysgrifennu at yr Archwilydd Cyffredinol yn gofyn am ymchwiliad i gamddefnydd posib o arian cyhoeddus at ddibenion gwleidyddol.

Mae’r Prif Weinidog ac Arweinydd Llafur Cymru, Mark Drakeford, wedi gwrthod cefnogi galwadau gan Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, ar gyfer ymchwiliad gan Archwilydd Cyffredinol yn dilyn sylwadau a wnaed gan Arweinydd Llafur Cyngor Castell-nedd Port Talbot, Rob Jones yn ymwneud â chamddefnydd o arian cyhoeddus.

Yr wythnos diwethaf, gorfodwyd arweinydd Llafur Cyngor Castell-nedd Port Talbot, Cyngh. Rob Jones, i ymddiswyddo ar ôl i recordiad ddod i’r amlwg ohono yn gwneud sylwadau difrïol am Aelod Senedd Plaid Cymru, Bethan Sayed.

Darllenwch fwy
Ychwanegwch eich ymateb Rhannu

Ymateb ein hymgeisydd i sylwadau Arweinydd y Cyngor

Mae Sioned Williams, Ymgeisydd Senedd Plaid Cymru dros Gastell-nedd, wedi ymateb i'r recordiad honedig a gyhoeddwyd o Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot Council, Cyngh. Rob Jones, sydd wedi arwain ato yn sefyll nôl o'i rôl wrth i ymchwiliad gael ei gynnal.   

"Rwyf wedi fy synnu’n fawr gan y geiriau yr honnir iddynt gael eu defnyddio gan arweinydd cyngor Castell-nedd Port Talbot i ddisgrifio Aelod o’r Senedd, sydd wedi gweithio’n galed i gynrychioli ei hetholwyr yn y rhanbarth hwn dros nifer o flynyddoedd. Ni all y math hwn o iaith rywiaethol fod â lle yn ein gwleidyddiaeth.

Darllenwch fwy
Ychwanegwch eich ymateb Rhannu

Ask Adam Neath Port Talbot

This Thursday at 7pm our Senedd election candidate, Sioned Williams, will be joined by Plaid Cymru leader Adam Price MS for a virtual town hall discussion focused on the concerns within the Neath and Aberavon constituencies. During this event both will take questions from the public, so if you wish to find out Plaid Cymru's stance on the issues that matter to you, join us from the comfort of your own living room! You don't have to be a Plaid Cymru member to attend so you are welcome to invite friends or family to join.

Ychwanegwch eich ymateb Rhannu

Gweledigaeth newydd ar gyfer addysg a sgiliau Ôl-16

Mae Ymgeisydd Senedd Plaid Cymru ar gyfer Castell-nedd Sioned Williams wedi cyfarfod â Chyfarwyddwr Polisi a Materion Cyhoeddus Colegau Cymru, Dr Rachel Bowen i drafod syniadau am yr hyn sydd angen ei wneud gan Lywodraeth nesaf Cymru i wella a datblygur sector addysg ôl-16.

Darllenwch fwy
Ychwanegwch eich ymateb Rhannu

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.