Cynlluniau ad-drefnu ysgolion

Mae llawer o drigolion Pontardawe, Trebanos, Godre'rgraig ac Alltwen a'r ardaloedd cyfagos yn poeni am y cynlluniau i greu am ysgol gynradd fawr newydd ym Mhontardawe ar safle Ysgol Cwmtawe. Bydd y cynlluniau fel y maent yn cael effaith fawr ar Bontardawe a’r cymunedau cyfagos a chredaf fod yr adroddiad a'r ymgynghoriad ar y cynlluniau a gyhoeddwyd gan Gyngor CNPT wedi codi nifer o gwestiynau a materion allweddol nad aethpwyd i'r afael â hwy hyd yma. Rydym yn haeddu ymateb ystyrlon in pryderon - ond ni dderbyniwyd atebion hyd yn hyn.

Darllenwch fwy
Ychwanegwch eich ymateb Rhannu

Gweithredu Cymunedol Covid

Rwyf wedi cynrychioli fy mhentref, Alltwen yng Nghwm Tawe, fel Cynghorydd Cymuned ers dros dair blynedd bellach ac ar hyn o bryd rwy'n Gadeirydd Cyngor Cymuned Cilybebyll. Yn wahanol i swyddi etholedig eraill, mae bod yn gynghorydd cymunedol yn rôl wirfoddol ac mae'n un mor werth chweil: Dyma'r haen agosaf o ddemocratiaeth at y  bobl ac mae'n ffordd wych o ddod i adnabod a deall anghenion a chymeriad eich cymdogaeth leol.

 

 

Wrth i argyfwng Coronafeirws ddechrau taro Cymru a'r cyfnod dan glo anochel yn nesau, synhwyrais fod llawer o'm cymdogion yn dechrau pryderu ynghylch sut y byddent yn ymdopi â thasgau hanfodol bob dydd fel siopa a chasglu meddyginiaeth. Roeddwn wedi clywed sut roedd ffrindiau yng Nghaerdydd wedi cychwyn rhwydwaith gwirfoddolwyr yn eu hardal a phenderfynais, gan nad oedd yr awdurdod lleol wedi sefydlu unrhyw gynllun bryd hynny, y byddwn yn gwneud yr un peth yn fy ward yn rhinwedd fy rôl fel cynghorydd cymuned.

 

 

Darllenwch fwy
Ychwanegwch eich ymateb Rhannu

LLAIS NEWYDD AM GYFNOD NEWYDD

Sioned Williams yw eich ymgeisydd Plaid Cymru ar gyfer yr Etholiad Senedd ym mis MAI
2021.

Nawr yw'r amser i ddechrau cynllunio ar gyfer dyfodol newydd - un a fydd o fudd i bawb sy'n
byw ac yn gweithio yma, a phenderfynu beth ddylai ein blaenoriaethau fod wrth i ni wynebu effeithiau Covid-19 ar ein cymunedau.


Mae Sioned yn byw yn yr Alltwen yn etholaeth Castell-nedd gyda’i gŵr Daniel a’u dau blentyn sydd yn eu harddegau, ac mae'n Gaderydd Cyngor Cymuned Cilybebyll ac yn llywodraethwr ysgolion lleol ers nifer o flynyddoedd. Yn gyn-newyddiadurwr gyda'r BBC, mae hi bellach yn gweithio ym Mhrifysgol Abertawe ac mae ei gwaith yn cynnwys trefnu digwyddiadau cyhoeddus a chyrsiau
cymunedol ar hanes, diwylliant a llenyddiaeth Cymru ar draws ein hardal.

 

Darllenwch fwy
Ychwanegwch eich ymateb Rhannu

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd