PLAID YN SYNNU AT GANLYNIAD YMCHWILIAD "SCHOOLGATE"

Mae Plaid Cymru yng Nghastell-nedd wedi ymateb i’r newyddion bod Ombwdsmon Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru wedi darganfod nad oedd cyn-arweinydd cyngor Castell-nedd Port Talbot, y Cynghorydd Rob Jones, wedi torri Cod Ymddygiad y cyngor.

 

Recordiwyd y Cynghorydd Jones yn annerch cyfarfod preifat o’r Blaid Lafur ac fe'i chywyd yn siarad yn agored am ailgyfeirio cronfeydd cyngor at wardiau Llafur ac i ffwrdd o wardiau a ddaliwyd gan Blaid Cymru a nododd hefyd ei fod o blaid cynllun ysgol ddadleuol yng Nghwm Tawe cyn i’r ymgynghoriad cyhoeddus ddechrau hyd yn oed. Roedd hefyd yn ymddangos ei fod yn honni bod yr aelod Annibynnol ar gyfer Blaendulais wedi ei gadw mas yn fwriadol wrth i raglen i uwchraddio Amgueddfa Glofa Cefn Coed gael ei datblygu. Fe’i clywyd hefyd yn gwneud sŵn poeri wrth grybwyll enw’r cyn-AS Plaid Cymru Bethan Sayed.

Dywedodd llefarydd ar ran Etholaeth Plaid Cymru Castell-nedd; “Mae’r Ombwdsmon wedi penderfynu nad oedd y gweithredoedd hyn mewn gwirionedd yn groes i’r Cod Ymddygiad. Mae'n ymddangos bod hwn yn benderfyniad technegol iawn ac nid ydym yn beirniadu'r Ombwdsmon am hynny, ond ni ellir caniatáu i'r mater yma gael ei sgubo o'r neilltu.

“Fe glywson ni i gyd y Cyngh. Jones yn ymddangos fel petai’n honni bod ganddo strategaeth o amddifadu wardiau nad ydyn nhw o dan reolaeth Lafur er mwyn gwneud i aelodau Llafur edrych yn well na’u gwrthwynebwyr gwleidyddol. Clywsom ef yn dweud bod y Cynghorydd Hunt wedi'i dorri mas o ddatblygiad Cefn Coed, er gwaethaf ei ran flaenorol yn y cynllun, unwaith eto i wneud i Lafur edrych yn dda. Clywsom hefyd ei sylwadau am gynllun ad-drefnu ysgolion Cwm Tawe a'r sarhad misoginistaidd a anelwyd at gyn-Aelod Plaid Cymru o'r Senedd.

“Clywsom yr hyn a ddywedodd y Cynghorydd Jones ac ni fydd y geiriau hynny byth yn diflannu. Mae ei weithredoedd yn cynrychioli torri ymddiriedaeth ac yn erbyn democratiaeth yng Nghastell Port Talbot. Mae penderfyniad yr Ombwdsmon yn seiliedig ar faterion technegol, ond mae ysbryd y cytundeb rhwng uwch aelod etholedig a phobl y fwrdeistref wedi cael ei ddifrodi’n ddifrifol.

“Hyderwn y bydd Plaid Lafur Castell-nedd Port Talbot yn cymryd cyfrifoldeb am ddisgyblu y Cynghorydd Jones ymhellach am ei weithredoedd.”

Dywedodd arweinydd grŵp cyngor Plaid Cymru, Alun Llewelyn; “Roedd pobl wedi eu syfrdanu gan y recordiad. Dangosodd sut mae'r Blaid Lafur yn anwybyddu barn pobl leol a gwaith cyfreithlon cynghorwyr o bleidiau eraill mewn modd haerllug.

“Tra bod adroddiad yr Ombwdsmon yn dweud nad oedd tystiolaeth o dorri’r cod ymddygiad, bu difrod difrifol eisoes i enw da’r cyngor a llywodraeth leol.”

Ychwanegodd Sioned Williams AS, Aelod Rhanbarthol Plaid Cymru yn y Senedd ar ran De Orllewin Cymru; “Rwy’n synnu braidd at y penderfyniad hwn ond mae'r cyhoedd wedi barnu sylwadau’r Cynghorydd Jones fel arall - ni ddylai’r modd y diystyriwyd cymunedau a chynrychiolwyr a etholwyd yn ddemocrataidd a’r misogini a ddangoswyd tuag at Aelod o’r Senedd, fy rhagflaenydd Bethan Sayed, gael ei oddef heb unrhyw gerydd."


Dangos 2 o ymatebion

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Andrea Kennedy
    commented 2021-07-21 11:07:26 +0100
    This is why I will never vote for plaid cymru. There has been a legal investigation and Mr Jones has been cleared. You are using disgusting smear tactics just to try and achieve a goal! Shame on you! Can’t your politics stand up on its own??
  • Sioned Williams
    published this page in Newyddion Diweddaraf 2021-07-20 18:34:06 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.