LLAIS NEWYDD AM GYFNOD NEWYDD

Sioned Williams yw eich ymgeisydd Plaid Cymru ar gyfer yr Etholiad Senedd ym mis MAI
2021.

Nawr yw'r amser i ddechrau cynllunio ar gyfer dyfodol newydd - un a fydd o fudd i bawb sy'n
byw ac yn gweithio yma, a phenderfynu beth ddylai ein blaenoriaethau fod wrth i ni wynebu effeithiau Covid-19 ar ein cymunedau.


Mae Sioned yn byw yn yr Alltwen yn etholaeth Castell-nedd gyda’i gŵr Daniel a’u dau blentyn sydd yn eu harddegau, ac mae'n Gaderydd Cyngor Cymuned Cilybebyll ac yn llywodraethwr ysgolion lleol ers nifer o flynyddoedd. Yn gyn-newyddiadurwr gyda'r BBC, mae hi bellach yn gweithio ym Mhrifysgol Abertawe ac mae ei gwaith yn cynnwys trefnu digwyddiadau cyhoeddus a chyrsiau
cymunedol ar hanes, diwylliant a llenyddiaeth Cymru ar draws ein hardal.

 

“Rwy’n angerddol dros ymladd am degwch a ffyniant ar gyfer cymunedau ardal Castell-nedd a gobeithiaf herio difaterwch ac esgeulustod y gorffennol wrth inni wynebu dyfodol newydd gyda’n gilydd. Rhaid inni achub ar y cyfle hwn i gryfhau ein cymunedau a'n cenedl yn hytrach na'u gweld yn
cael eu gwanhau.” - Sioned Williams

Gyda'ch cefnogaeth chi, bydd Sioned yn ymladd i


• Sicrhau Llais Cryfach i Gastell-nedd yng Nghymru, a Llais Cryfach i Gymru ym Mhrydain.
• Gwaredu ar dlodi plant
• Sicrhau codiad cyflog i'n gofalwyr
• Cyflwyno gofal cymdeithasol am ddim yn union fel y GIG
• Cyflwyno Bargen Newydd Werdd ar gyfer adnewyddu economaidd cynaliadwy

SIONED_CYNHADLEDD.JPG


Mae'n gyfnod newydd yn ein gwleidyddiaeth ac mae'n amser cael llais newydd i'n cymuned!


Felly hoffai Sioned glywed gennych chi!


Gallwch ysgrifennu ati drwy'r cyfeiriad RHADBOST, PLAID CYMRU
neu e-bostio [email protected] neu gysylltu trwy’r wefan www.plaidneath.cymru


Dilynwch Sioned ar:

Facebook - /SionedWilliamsforNeath
Instagram - /sionedplaid
Twitter - @Sioned_W


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.