Ymateb Grŵp Cynghorwyr Plaid Cymru i sylwadau Arweinydd Cyngor CNPT

Mae arweinydd grŵp Plaid Cymru ar Gyngor Castell-nedd Port Talbot, y Cynghorydd Alun Llewelyn, wedi croesawu’r ymchwiliad i recordiad honedig o sylwadau personol gan Arweinydd y Cyngor, Rob Jones, am wrthwynebwyr gwleidyddol, polisïau cau ysgolion, ac awgym o wahaniaethu posib yn erbyn Plaid Cymru a Chynghorwyr Annibynnol sydd wedi eu hethol yn ddemocrataidd i weithio dros eu hardaloedd.

"Mae angen i'r ymchwiliad fod yn deg ac yn drylwyr, ond mae'r rhain yn faterion difrifol - a dylid hefyd ymchwilio i ddiwylliant gwleidyddol y Blaid Lafur a'r ffordd maen nhw'n rhedeg cynghorau yn ne Cymru.

“Rwy’n bryderus iawn am gynnwys y tâp gan ei fod yn tanseilio hyder y cyhoedd yn nhegwch cyllideb a gwariant y cyngor mewn gwahanol rannau o’r sir, a’r ffordd y mae penderfyniadau’r cyngor yn cael eu gwneud. Mae angen i ni gael esboniadau am y datganiadau ar y tâp ac rwyf wedi gofyn i brif weithredwr a swyddog monitro'r cyngor ymchwilio i hyn ar frys."

"Rwyf hefyd wedi ysgrifennu at Gabinet a swyddogion Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn galw am atal proses ad-drefnu ysgolion Cwm Tawe.

"Rwy'n ymwybodol bod yr adroddiad ymgynghori ar yr ad-drefnu iar fin cael ei gyhoeddi. Rwy wedi ysgrifennu i ofyn i'r broses ad-drefnu gael ei hatal am ddau reswm.


"Collwyd hyder llwyr yn y broses, a bwriadau’r awdurdod lleol, ymhlith rhieni a thrigolion yn dilyn datgelu sylwadau gan Arweinydd y Cyngor, y Cyng. Rob Jones. Mae parhau gyda'r broses dan yr amgylchiadau hyn, tra bo'r sefyllfa yn destun ymchwiliad, yn anghynaladwy.


"Yn ail, cododd nifer o rieni bryderon bod y cyfnod clo cau yn effeithio ar ymgynghori priodol. Rwy'n deall bod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau newydd sy'n caniatáu ymestyn cyfnodau ymgynghori yn sgil y pandemig ac mae Sir Gaerfyrddin er enghraifft wedi ymestyn eu cyfnod ymgynghori ar ad-drefnu eu hysgolion. "


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.