Mae Plaid Cymru Castell-nedd yn cefnogi galwadau gan yr actifydd cymunedol lleol Andrew Jenkins, Cimla, ar i Gyngor Castell-nedd Port Talbot gyflwyno mynegiant o ddiddordeb ar gyfer cynllun Dinas Diwylliant y DG erbyn y dyddiad cau ym mis Gorffennaf.
Dywedodd Mr Jenkins:
"Mae cymunedau Castell-nedd Port Talbot wedi'u trwytho mewn hanes cyfoethog a diwylliant bywiog, a chredaf y bydd gwneud hyn yn tynnu sylw at y cyfraniad enfawr y mae diwylliant lleol yn ei wneud i'n lles, a chymaint mwy."
Sefydlwyd cynllun Dinas Diwylliant y DG yn 2009 gyda'r nod o arddangos yr effaith y mae diwylliant yn ei chael ar gymunedau ledled y DG. Hyd yn hyn mae'r enillwyr wedi cynnwys Derry, Hull, a deiliad cyfredol y teitl sef Coventry. Ar gyfer y rownd nesaf, bydd grwpiau o drefi hefyd yn gallu cynnig am y teitl.
Dywedodd Y Cyngh. Alun Llewelyn, Arweinydd Grŵp Plaid Cymru ar Gyngor Castell-nedd Port Talbot;
“Mae gan ein sir hanes diwylliannol cyfoethog, o farddoniaeth Gymraeg ganoloesol a'r llawysgrifau a gynhyrchwyd ym Margam ac Abaty Nedd, i ddatblygiadau cynnar mewn ffotograffiaeth a diwylliant y cymunedau diwydiannol a ddiffiniodd ein cenedl, hyd at arwyr modern y llwyfan a sgrin, o Richard Burton i Michael Sheen.
“Mae gennym hefyd gysylltiadau â rhai o awduron a beirdd Cymraeg gorau’r oes fodern, fel Gwenallt, Menna Elfyn a Dafydd Rowlands. Cantorion fel Mary Hopkin a Max Boyce i Rebecca Evans, Kathryn Jenkins a Bronwen Lewis. A llawer mwy!
“Rydym yn gymuned ddiwylliannol gyfoethog, gyda gwir ddiwylliant dwyieithog, ac mae angen i ni adael i'r byd wybod am hyn. Mae Treftadaeth a Diwylliant yn asedau economaidd go iawn. Mae'n rhaid i ni ofyn pam nad ydyn ni'n gwneud mwy gyda'r hyn sydd gennym ni?"
Ychwanegodd Sioned Williams AS, Aelod Plaid Cymru o'r Senedd dros Orllewin De Cymru:
"Gallai cynnig am Ddinas Diwylliant y DG helpu ardal Castell-nedd i fanteisio'n well ar ei threftadaeth ragorol gyda'r holl fuddion economaidd a diwylliannol a fyddai'n dod yn sgil hynny. Hyd yma collwyd cyfle i hyrwyddo llawer o safleoedd o'r radd flaenaf, fel Abaty Nedd, i'w llawn botensial a byddai'r cais hwn yn rhoi ffocws newydd ar bwysigrwydd a buddion ein treftadaeth ddiwylliannol sydd heb eu hamlygu'n iawn. "
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter