Cynlluniau ad-drefnu ysgolion

Mae llawer o drigolion Pontardawe, Trebanos, Godre'rgraig ac Alltwen a'r ardaloedd cyfagos yn poeni am y cynlluniau i greu am ysgol gynradd fawr newydd ym Mhontardawe ar safle Ysgol Cwmtawe. Bydd y cynlluniau fel y maent yn cael effaith fawr ar Bontardawe a’r cymunedau cyfagos a chredaf fod yr adroddiad a'r ymgynghoriad ar y cynlluniau a gyhoeddwyd gan Gyngor CNPT wedi codi nifer o gwestiynau a materion allweddol nad aethpwyd i'r afael â hwy hyd yma. Rydym yn haeddu ymateb ystyrlon in pryderon - ond ni dderbyniwyd atebion hyd yn hyn.

  • Mae'r ymgynghoriad ei hun yn ddogfen anfoddhaol iawn. Pam mae’r opsiynau'n sy’n cael eu darparu mor gul, heb roi unrhyw gyfle i drafod y cynigion yng nghyd-destun pob ysgol unigol? Mae'n ymddangos mai’r dewis yw naill ai derbyn y cynnig yn ei gyfanrwydd neu ei wrthod.

 

  • Oni ddylid delio ag achos pob ysgol ar wahân - gan fod y pryderon a'r cyd-destun ar gyfer pob ysgol yn wahanol? Er enghraifft, bydd disgyblion yn ysgol Godre’rgraig yn cael eu heffeithio gan y ffaith na fyddant yn gallu cerdded na beicio i'r ysgol, nac yn gallu cyrchu darpariaeth feithrinfa heb fod ganddynt gar. Mae hyn hefyd yn wir am rieni disgyblion oed meithrin yn Ysgol Llangiwg. Pam na chefnogodd un cynghorydd Llafur awgrym cynghorwyr lleol Plaid Cymru i ofyn i swyddogion Cyngor CNPT ymchwilio i bosibiliadau eraill, gan gynnwys cost adnewyddu a datblygu’r ysgolion ar eu safleoedd presennol?

 

  • Pam nad oes opsiwn i gefnogi unrhyw safle arall ac eithrio'r un arfaethedig ger Ysgol Cwmtawe? Pwrpas ymgynghoriad cyhoeddus i fod ywcasglu barn gan y rhai y bydd y newid yn effeithio arnynt ac annog awgrymiadau yn hytrach na chyfyngu ar drafodaeth.

 

  • Mae ysgolion wrth galon bywyd cymunedol. Pam nad yw'r ymgynghoriad yn ymdrin yn llawn â'r cwestiwn o’r effaith ehangach ar gymuned pob ysgol? Byddai hyn yn cynnwys yr effaith ar fusnesau lleol.

 

  • Pam nad yw'r adroddiad yn adlewyrchu effaith y cynlluniau ar nod a thargedau'r awdurdod lleol ei hun o ran datblygu addysg cyfrwng Cymraeg yn ardal Cwmtawe , sef yr effaith ar nifer y disgyblion yn YGG Trebannws, YGG Pontardawe a'r effaith hir dymor ar niferoedd YG Ystalyfera Bro Dur?

 

  • Pam nad yw argyfwng Covid-19 wedi llywio'r adroddiad hwn mewn unrhyw ffordd? Rydym yn gwybod y gallai aros yn lleol a chadw mewn grwpiau llai mewn pob math o gyd-destunau fod yn hanfodol i’r dyfodol, hyd yn oed y tu hwnt i'r dyddiad agor arfaethedig ar gyfer yr ysgol newydd efallai.

 

Rwy’n annog pawb i ymateb i'r ymgynghoriad hwn. Gallwch weld y cynlluniau a chwblhau'r ymgynghoriad yma: https://www.npt.gov.uk/1891

 

Cysylltwch â fi a'n Cynghorwyr Plaid Cymru ym Mhontardawe, Linet Purcell ac Anthony Richards i leisio'ch barn.

 

Ar hyn o bryd mae gwleidyddion Llafur mewn grym ar lefel Cyngor CNPT, y Senedd a San Steffan yn ein hardal ni. Mae'n hanfodol ein bod yn rhoi pwysau arnynt i wrando ar leisiau ein cymunedau.

 

Sioned Williams


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.