Wrth ymateb i’r streic bedwar diwrnod gan weithwyr DVLA, dywedodd ymgeiswyr rhanbarthol Plaid Cymru Gorllewin De Cymru Sioned Williams a Luke Fletcher,
“Rydym yn cydsefyll gyda’r gweithwyr DVLA yn Abertawe sy’n streicio dros amodau gwaith diogel.
"Ni ddylai unrhyw weithiwr orfod mynd ar streic i warantu ei ddiogelwch yn y gwaith ac mae'n ddyletswydd ar y cyflogwr - yn yr achos hwn Llywodraeth San Steffan - i ddarparu man gwaith diogel i weithwyr.
"Mae gan weithwyr y DVLA ein cefnogaeth lawn. "
Ychwanegodd Sioned Williams, sydd hefyd yn Ymgeisydd Senedd Plaid Cymru dros Gastell-nedd:
"Rwy’n llwyr gefnogi’r staff a orfodwyd yn anffodus i weithredu fel hyn - rwyf wedi siarad â llawer o drigolion sy’n byw yn ardal Castell-nedd a oedd yn teimlo ofn wrth fynd i mewn i waith yn y DVLA ac yn grac na chymerwyd camau diogel i gadw staff yn ddiogel."
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter