Mae'r sefyllfa yng Nghastell-nedd Port Talbot wedi parhau i ddirywio ac erbyn hyn mae gennym y cyfraddau haintCovid-19 gwaethaf yng Nghymru.
Mae'r Cynghorydd Alun Llewelyn, Arweinydd grŵp Plaid Cymru ar Gyngor CNPT wedi ysgrifennu at y Cyngor yn ogystal â Jeremy Miles AoS, sy'n aelod o Lywodraeth Cymru, yn gofyn i'r Cyngor, Llywodraeth Cymru, a’rr Awdurdodau Iechyd i wneud mwy i ymateb i'r sefyllfa ddifrifol hon.
Ymhlith y mesurau brys a phenodol mae'r Cyng Llewelyn wedi gofyn y dylid eu hystyried mae:
- Capasiti profi asymptomatig cynhwysfawr ar gyfer Castell-nedd Port Talbot. Mae tystiolaeth bod y dull hwn wedi bod yn effeithiol ym Merthyr Tudful a rhannau o Loegr fel Lerpwl.
- Ailasesu'r cwestiwn o gau adeiladau ysgol yn gynnar a throsglwyddo dysgu a gweithgareddau eraill ar-lein.
- Gwybodaeth gliriach a mwy penodol ar batrwm yr heintio.
Dywedodd Ymgeisydd Senedd Castell-nedd, Sioned Williams:
“Er bod gan bawb gyfrifoldeb personol i gadw at y rheoliadau er mwyn lleihau lledaeniad y firws,nid yw beio preswylwyr yn dderbyniol fel yr unig ymateb i'r sefyllfa bryderus iawn hon- mae angen ymateb mwy effeithiol gan yr awdurdodau hefyd.”
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter