Mae Sioned Williams, Ymgeisydd Senedd Plaid Cymru dros Gastell-nedd, wedi ymateb i'r recordiad honedig a gyhoeddwyd o Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot Council, Cyngh. Rob Jones, sydd wedi arwain ato yn sefyll nôl o'i rôl wrth i ymchwiliad gael ei gynnal.
"Rwyf wedi fy synnu’n fawr gan y geiriau yr honnir iddynt gael eu defnyddio gan arweinydd cyngor Castell-nedd Port Talbot i ddisgrifio Aelod o’r Senedd, sydd wedi gweithio’n galed i gynrychioli ei hetholwyr yn y rhanbarth hwn dros nifer o flynyddoedd. Ni all y math hwn o iaith rywiaethol fod â lle yn ein gwleidyddiaeth.
"Os mai geiriau'r Cynghorydd Rob Jones yw'r rhain, rhaid cymryd camau brys i adfer ffydd pobl Castell-nedd yn y cyngor sydd i fod i'w gwasanaethu: Mae’r ymdriniaeth o Gynghorwyr etholedig a'r bobl y maent yn eu cynrychioli, sy’n cael ei amlygu yn y recordiad, yn awgrymu gwahaniaethu, agwedd amharchus a gweithredu annemocrataidd. Ymhellach, mae’r sylwadau a wnaed yn y recordiad hwn yn awgrymu arferion a allai fod yn llygredig ar frig cyngor Castell-nedd Port Talbot, sy'n cael ei redeg gan Lafur.
"Yn ogystal, mae’r agwedd a ddangosir yn y recordiad tuag at y rhai sydd wedi bod yn lleisio eu barn ynghylch cau ysgolion yng Nghwm Tawe yn sinigaidd ac yn arddangos diffyg parch, ac hefyd yn awgrymu rhag-benderfyniad ar y mater a fydd yn dod gerbron yr arweinydd a'i gabinet."
"Dylai gwleidyddiaeth ymwneud â phobl, nid grym."
"Rwy'n croesawu'r ymchwiliad i'r mater hwn, er budd democratiaeth ac er mwyn cynnal safonau mewn bywyd cyhoeddus."
Dangos 2 o ymatebion
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter