Mae Ymgeisydd Senedd Plaid Cymru ar gyfer Castell-nedd Sioned Williams wedi cyfarfod â Chyfarwyddwr Polisi a Materion Cyhoeddus Colegau Cymru, Dr Rachel Bowen i drafod syniadau am yr hyn sydd angen ei wneud gan Lywodraeth nesaf Cymru i wella a datblygu’r sector addysg ôl-16.
Gofynnodd Dr Bowen i gwrdd â Sioned Williamser mwyn cyflwyno gweledigaeth Colegau Cymru ar gyfer trawsnewid y ddarpariaeth addysgu yng Nghymru a chlywed ei barn ar y materion y mae'n rhaid mynd i'r afael â nhw ym maes Addysg Bellach, yn enwedig wrth i ni wynebu'r heriau arbennig sy'n wynebu ein pobl ifanc yn sgil pandemig Covid-19.
Canolbwyntiodd y trafodaethau ar bwysigrwydd sicrhau gweithio mewn partneriaeth gwell trwy gytuno ar weledigaeth gliriach ar gyfer y sector cyfan a phwysigrwydd hanfodol cynhwysiant digidol, sydd wedi'i amlygu yn fwy nag erioed gan argyfwng Covid.
Dywedodd Sioned Williams:
“Mae colegau Addysg Bellach yn rhan hanfodol o ddatblygu ac ehangu sgiliau allweddol ac o greu Cymru fwy llewyrchus a gweithlu sydd yn cael ei werthfawrogi'n well, ac mae Plaid Cymru yn cytuno bod angen sylw gwell a diwygio brys ar y sector.
“Bu angen mynd i’r afael â nifer o'r materion hyn, sy'n ymwneud â chefnogi dysgwyr ôl-16 yn well, ers amser maith. Mae yna bellach angen brys i'w datrys yn sgil effeithiau tymor byr a thymor hir y pandemig ar ein heconomi a’n cymdeithas.
“Rwyf wedi gweld drosof fy hun sut mae Coleg Castell-nedd yn chwarae rhan allweddol yn yr economi leol a chymdeithas, a sut y gallai galluogi mwy o bobl ifanc i gael mynediad at opsiynau addysgu ehangach roi hwb i wytnwch ein gweithlu wrth wynebu heriau'r dyfodol.”
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter